Nodwch fod unigolion yn cael eu cofrestru o dan yr enw y cant eu hadnabod yn y gweithle e.e. Leslie = Les, Angela = Angie. Os na allwch gael hyd i gofnod unigolyn sydd wedi cael ei gofrestru, nodwch hynny o fanylion ac y gallwch yn y meysydd chwilio.
Y modd mwyaf cywir a diogel o wirio ag ydi unigolyn wedi cael ei gofrestru ydi drwy nodi’r rhif cofrestru yn y maes perthnasol.
Gallwch chwilio am gofnod gweithiwr gofal cymdeithasol gan ddefnyddio enw cyntaf, cyfenw, sir ble maent yn gweithio neu gyda rhif cofrestru Cyngor Gofal Cymru; nid oes angen rhoi gwybodaeth ym mhob adran.
Mae'r cyfleuster chwilio yn darparu 'nod-chwiliwr' awtomatig e.e. bydd Robert yn datgelu Robert, Roberts, Robertson.
Mae'r Gofrestr o Weithwyr Gofal Cymdeithasol wedi rhannu mewn dau rhan
Rhan 1:
Unigolion â chymhwyster mewn gwaith cymdeithasol
Rhan 2:
Cofrestru gorfodol:
Myfyrwyr Gwaith Cymdeithasol
Rheolwr Gofal Preswyl i Blant
Rheolwr Cartrefi Gofal Oedolion
Gweithiwr Gofal Preswyl i Blant
Cofrestru yn orfodol yn 2013:
Rheolwr Gofal Cartref
Cofrestru ddim yn orfodol:
Gweithiwr Gofal Cartref Oedolion
Gweithiwr Gofal Cartref
Egluro canlyniadau chwilio
Cerydd
Rhybudd llym ydi Cerydd a roddir i unigolion cofrestredig. Gall y cerydd gael ei osod ar gofnod yr unigolyn ar y Gofrestr o Weithwyr Gofal Cymdeithasol am hyd at bum mlynedd. Bydd y cerydd yn aros ar gofnodion y Cyngor Gofal a gall ei gymryd i ystyriaeth mewn achosion yn y dyfodol. Gall yr unigolyn barhau i weithio tra bo’r cerydd mewn lle.
Wedi cofrestru gydag amodau
Gall Pwyllgor Cofrestru Cyngor Gofal Cymru fod wedi gosod amodau ar gofrestriad unigolyn cofrestredig.
Ni fydd y Gofrestr yn dangos os oes amod wedi cael ei roi ar gofrestriad unigolyn cofrestredig. Os ydych chi’n gyflogwr sy’n ystyried cyflogi unigolyn cofrestredig, ac rydych chi eisiau gwirio p’un ai bod amod/amodau wedi eu gosod, gofynnwch i’r ymgeisydd am gopi o’i dystysgrif cofrestru - bydd hon yn cynnwys unrhyw amod/amodau sydd wedi cael eu gosod ar gofrestriad yr ymgeisydd. Yn dilyn hyn, os oes angen mwy o wybodaeth arnoch am yr amodau, cysylltwch â’r Cofrestrydd ar 029 2078 0656.
Unigolion ar y gofrestr
Bydd pawb ar y Gofrestr wedi dangos eu bod yn addas i weithio mewn gofal cymdeithasol trwy brofi i ni fod ganddynt:
- y cymwysterau angenrheidiol;
- bod ganddynt gymeriad da;
- a'u bod yn cytuno i gydymffurfio â’n Côd Ymarfer ar gyfer Gweithwyr Gofal Cymdeithasol.